Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy’n darparu bwyd a diod ar ddiwrnod ysgol i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd a gynhelir, pa un a ddarperir y bwyd a’r ddiod ar fangre ysgol ai peidio.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r mathau o fwyd a diod y mae rhaid eu darparu ac na chaniateir eu darparu a pha mor aml y mae rhaid darparu bwydydd penodol neu ba mor aml na chaniateir darparu bwydydd penodol. Maent hefyd yn rhagnodi cynnwys ciniawau ysgol cyfartalog o ran egni a maethynnau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 fel mai dim ond i ysgolion uwchradd y byddant yn gymwys. Unwaith y bydd y newidiadau mewn grym, bydd Rheoliadau 2013 yn nodi safonau a gofynion maethol gorfodol ar gyfer bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Y weithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol
Yn y diffiniad o “ysgol feithrin a gynhelir” yn rheoliad 2(1), mae cyfeiriadau at y termau “ysgol feithrin” ac “ysgol arbennig”. Nodwn nad yw'r termau hyn wedi'u diffinio yn y Rheoliadau ac nad ydynt wedi'u cynnwys yn y diffiniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(6) fel y'u cynhwysir yn adran 20 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro ystyr y termau hyn yng nghyd-destun y Rheoliadau.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Er bod y Rheoliadau’n nodi’r gofynion a’r safonau ar gyfer darparu bwyd a diod perthnasol mewn ysgolion, gofynnir i Lywodraeth Cymru esbonio sut y bydd gweithredu’r Rheoliadau’n cael ei fonitro ac unrhyw ganlyniadau am beidio â chydymffurfio.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddau bwynt adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Ionawr 2026